Manylion Cyswllt
Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â’r cyfryngau, neu i ymuno â rhestr y wasg i gael newyddion OGCC:
E-bostiwch ni yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru neu ffoniwch 0300 790 0203 a phwyswch 3.
Canllawiau brand a logo
Gweler ein canllaw brandio yma: Ombwdsmon Cymru Canllawiau Brand 2023.
Os hoffech ddefnyddio ein logo, cysylltwch â ni yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru fel y gallwn anfon y logo atoch yn y fformat sydd ei angen arnoch.
Rhagor o Wybodaeth
Cliciwch yma am ein Newyddion a Datganiadau i’r Wasg Diweddaraf.
I bori neu chwilio crynodebau o ganlyniadau ac adroddiadau ymchwiliadau diweddar, ewch i Ein Canfyddiadau.
Twitter | LinkedIn | Facebook | Youtube
Ynglŷn ag OGCC
Fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC), rydym yn gwneud tri pheth:
- Rydym yn ymchwilio i gwynion a wneir gan aelodau o’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi dioddef caledi neu anghyfiawnder oherwydd bod darparwr gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud pethau yn anghywir. Gallwn ymchwilio i gwynion am y rhan fwyaf o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys llywodraeth leol (cynghorau sir a chynghorau cymuned), y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (gan gynnwys meddygon teulu a deintyddion), landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (cymdeithasau tai), a Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r cyrff a noddir ganddi. Gallwn hefyd ystyried cwynion am ofal cymdeithasol a drefnwyd yn breifat neu ofal cymdeithasol a ariennir, yn ogystal â gwasanaethau gofal lliniarol ac, o dan amgylchiadau penodol, agweddau ar ofal iechyd a ariennir yn breifat.
- Rydym yn ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr lleol wedi torri Codau Ymddygiad eu hawdurdod, sy’n nodi’r egwyddorion ymddygiad cydnabyddedig y dylai cynghorwyr eu dilyn mewn bywyd cyhoeddus.
- Rydym yn ysgogi gwelliant systematig mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Mae gennym ddau bŵer penodol sy’n ein helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus. Gallwn lansio ymchwiliad hyd yn oed heb dderbyn cwyn (‘ar ei liwt ei hun’). Fel yr Awdurdod Safonau Cwynion (CSA), gallwn hefyd hyrwyddo ymdrin â chwynion yn dda gan gyrff yn ein hawdurdodaeth drwy osod gweithdrefnau cwyno enghreifftiol, darparu hyfforddiant, a monitro sut mae’r cyrff hyn yn ymdrin â chwynion.