Rydym yn hapus i dderbyn ac ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. Mae ein holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Trosolwg
Gallwn ystyried cwynion:
- am gyrff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus,
- am ddarparwyr gofal annibynnol, a
- bod cynghorwyr lleol wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Cwynion am ddarparwyr gwasanaeth
Am wybodaeth gyflym a rhwydd ynglŷn â’r hyn y gallwn a ni allwn ei wneud, gweler ein taflen yma.
|
I ddarllen mwy am yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus, cliciwch yma.
I ddarllen mwy am yr hyn y gallwn ymchwilio iddo o ran darparwyr gofal annibynnol, cliciwch yma.
Mae gennym hefyd daflenni ffeithiau manwl sy’n esbonio’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud feswl pwnc y gwŷn. Gallwch eu canfod yma.
Barod i gwyno am ddarparwr gwasanaeth?
Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth uchod. Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio ichi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor.
Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, gallwch:
- gwblhau ein ffurflen gwyno ar-lein
- anfon eich ffurflen gwyno atom ni: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.
Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post.
- ebostio eich ffurflen gwyno atom: holwch@ombwdsmon.cymru
- cwyno i ni dros y ffôn: 0300 790 0203.
Mae rhagor o wybodaeth am ein proses ar gyfer derbyn cwynion dros y ffôn ar gael yma.
Gallwch lawrlwytho ac argraffu ein ffurflenni cwyno yma:
- Ffurflen gwyno am ddarparwr gwasanaeth (gallwch ddefnyddio’r ffurflen hown ar gyfer cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac annibynnol)
- Ffurflen cwyno am ddarparwr gwasanaeth (Hawdd ei Ddarllen)
Bydd ein ffurflen cwyno ar-lein yn rhoi cymorth i chi adnabod y corff yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn. Os yw eich cwyn yn ymwneud â darparwr gofal annibynnol, gofynnwn i chi roi ei fanylion.
Os yr ydych yn penderfynu cwblhau’r ffurflen brintiedig, gwiriwch fod y sefydliad yr ydych eisiau cwyno amdano o’r math y gallwn edrych i mewn iddo (mae’r rhestr ar gael yma).
- Os rydych yn dymuno gwyno ar ran rhywun arall, bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ein Ffurflen Ganiatad.
Mae rhagor o ganllawiau ar sut i gyflwyno cwyn ar gael isod:
Cwynion am gynghorwyr lleol
Am wybodaeth gyflym a rhwydd ynglŷn â’r hyn y gallwn a ni allwn ei wneud, gweler ein taflen yma.
|
Mae rhagor o wybodaeth yn y taflenni ffeithiau hyn:
- Y Cod Ymddygiad – gwybodaeth gyffredinol
- Yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am ymddygiad cynghorydd lleol
Mae gennym hefyd daflenni ffeithiau eraill sy’n esbonio ein proses a’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud. Gallwch eu canfod yma.
Barod i gwyno am gynghorydd lleol?
Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth uchod. Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio ichi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor.
Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, gallwch:
- gwblhau ein ffurflen gwyno ar-lein
- anfon eich ffurflen gwyno atom ni: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.
Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post
- ebostio eich ffurflen gwyno atom: holwch@ombwdsmon.cymru
Gallwch lawrlwytho ac argraffu ein ffurflen gwyno yma:
Sut byddwn yn cyfathrebu â chi
Yn unol â’n Safonau Gwasanaeth, ceisiwn cyfathrebu â chi’n effeithiol ar bob adeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma yn y daflen ffeithiau yma: Cyfathrebu am eich cwyn.
Helpwch ni i’ch helpu chi
Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Ni ystyriwn ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.
Credwn y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddem yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.