Rydyn ni’n bartneriaeth o eiriolwyr profiadol a chymwys sy’n cael eu comisiynu gan y tri awdurdod lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac rydyn ni mewn partneriaeth â phedwar mudiad arall i ddarparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn Gymraeg neu’n Saesneg ar draws y tair sir. Rydyn ni wedi cael ein cydnabod am ragoriaeth ein gwasanaeth a ddarperir drwy ddyfarnu’r nod perfformiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth.
Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn annibynnol ar yr holl wasanaethau eraill. Mae ein gwasanaeth yn addas ar gyfer oedolion sydd â rhwystrau i godi llais/ymgysylltu â gwasanaethau, ac sydd heb unrhyw unigolyn priodol arall i eiriol ar eu rhan. Rydyn ni’n cynnig cymorth o ran asesu, cynllunio ac adolygu gofal a chymorth, prosesau diogelu a chwynion am unrhyw un o’r rhain.
Dyma sut gallwch chi gael gafael ar y gwasanaeth hwn:
- Rydych chi’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro ac rydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, AC
- Mae gennych chi anghenion gofal cymdeithasol a chymorth neu’n gofalu am rhywun sydd ag anghenion cymorth, AC
- Mae eich anghenion gofal a chymorth yn cael eu hasesu neu eu hadolygu, neu rydych chi’n mynd drwy’r broses gynllunio o amgylch eich anghenion gofal a chymorth NEU
- Rydych chi’n ymwneud ag ymholiad diogelu NEU
- Mae gennych chi gŵyn ddiweddar am unrhyw un o’r rhain AC
- Mae rhwystrau sy’n eich atal rhag sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed neu rhag cymryd rhan lawn mewn prosesau gofal cymdeithasol, A
- Does gennych chi neb arall y byddech chi eisiau i eiriol ar eich rhan.