Mae Fighting with Pride yn elusen gofrestredig a sefydlwyd ym mis Ionawr 2020. Elusen filwrol ydym ni, sy’n meddu ar brofiad go iawn, ac rydyn ni’n arwain ymgyrch i gefnogi iechyd a llesiant Cyn-filwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, pobl sy’n gwasanaethu, pobl ifanc sy’n aros i ymuno â’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. Ein pwrpas yw codi ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o’r angen i gefnogi’r rhai a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y gwaharddiad ar wasanaeth milwrol i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, cyn cael gwared ar y gwaharddiad hwnnw o’r diwedd ym mis Ionawr 2000. Ein nod yw cydnabod a dathlu’r Cyn-filwyr gwych hynny. Mae Fighting with Pride yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r seneddau datganoledig i ddarparu gwell cefnogaeth i Gyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n LHDT+ yn y dyfodol.
Yn gwasanaethu Cymru gyfan. Gallwn ni gynnig cyngor, eiriolaeth a chymorth.