Dechreuodd Cynllun Eiriolaeth Iechyd Meddwl Sir y Fflint yn 2000 mewn swyddfa fach yn yr Wyddgrug. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi newid ein henw o ‘Gwasanaethau Eiriolaeth Sir y Fflint’ i ‘Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd-ddwyrain Cymru’. Rheolir y gwasanaeth gan Fwrdd Ymddiriedolwyr, gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaeth a’r Rheolwr Gwasanaeth yn gyfrifol am y gwaith o reoli’r mudiad a’i staff o ddydd i ddydd.
Rydyn ni’n darparu eiriolaeth gymunedol yn Sir y Fflint i bobl 18 oed neu’n hŷn, ac eithrio Anabledd Dysgu
Rydyn ni’n darparu eiriolaeth iechyd meddwl cymunedol yn Sir y Fflint
Rydyn ni’n darparu gwasanaeth Cynrychiolydd Person Perthnasol (RPR) â thâl o dan y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid ar draws Sir y Fflint a Wrecsam
Dim ond yn darparu eiriolaeth.
Llawr cyntaf, Ystafell 3, Tŷ Broncoed, Parc Busnes Broncoed, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, CH7 1HP.