NEWCIS yw un o’r darparwyr gwasanaethau gofalwyr mwyaf yng Nghymru – gan ddarparu gwybodaeth, cymorth un i un, hyfforddiant a chwnsela i ofalwyr sy’n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau sy’n byw yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, a gall pobl atgyfeirio eu hunain neu gael eu hatgyfeirio gan fudiad neu aelod o’r teulu/ffrind (gyda chaniatâd). Mae ein gwasanaethau wedi’u teilwra i bob cyflwr unigol, mae’r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cwnsela, seibiant, asesiadau, seibiant i ofalwyr, cyrsiau hyfforddi, digwyddiadau cymdeithasol, grwpiau cefnogi, cymorth i gael gwaith ac addysg bellach a ffynhonnell wybodaeth lle rydyn ni’n darparu gwybodaeth berthnasol ac amserol ac yn atgyfeirio at fudiadau addas yn seiliedig ar angen.
Mae ein gwasanaeth ar gael ar gyfer gofalwyr di-dâl. Gofalwr yw unrhyw un sy’n gofalu neu’n bwriadu gofalu’n ddi-dâl am berthynas, partner neu ffrind sy’n sâl, sy’n fregus, sy’n anabl neu sy’n dioddef problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.
Rydyn ni’n gwasanaethu Gogledd-ddwyrain Cymru: Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Nid ydym yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth, ond gallwn eich cyfeirio at fudiadau perthnasol. Mae ein staff yn brofiadol iawn ac wedi’u hyfforddi i gefnogi gofalwyr gyda’u rôl ofalu unigol.
28-44 Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, CH7 1NZ