Mae Trans Aid Cymru yn rhwydwaith cyd-gymorth sy’n cefnogi pobl draws, rhyngrywiol ac anneuaidd yng Nghymru. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy atgyfeirio, rhoi cyngor anffurfiol, grantiau rheolaidd, a gofod cymdeithasol i’r gymuned draws, rhyngrywiol ac anneuaidd yng Nghymru.
Dyma’r cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi: pobl draws, rhyngrywiol ac anneuaidd yng Nghymru.
Dyma’r rhannau o Gymru rydyn ni’n gwasanaethu: rydyn ni’n cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghasnewydd a Chaerdydd, ond mae ein gwasanaethau a’n grantiau ar-lein ar gael i bobl ledled Cymru
A ydym ni’n cynnig cyngor/eiriolaeth: Rydyn ni’n cynnig cyngor ac arweiniad, a gallwn ni helpu gyda rhywfaint o eiriolaeth o bell - gallai hyn gynnwys cymorth i ddrafftio llythyrau, neu baratoi ar gyfer apwyntiadau a galwadau ffôn. Ni allwn ni ddarparu lefel uchel o gymorth oherwydd capasiti, gan ein bod ni’n cael ein harwain gan wirfoddolwyr ac nad ydyn ni’n weithwyr achos.