Sefydlwyd Y Ganolfan Arwyddo ym 1994 i gefnogi Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw yng ngogledd Cymru. Ers 1994, rydyn ni wedi ehangu i fod yn dîm o 18 o bobl, ac rydyn ni’n cefnogi pobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau neu anabledd, gan gynnwys cymorth cyfathrebu , prosiectau cyflogaeth a gwneud y cyfryngau’n hygyrch. Ein pwrpas ni yw gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch i bawb.
Mae ein gwasanaethau ni’n gwasanaethu gogledd Cymru, ond mae ein fideos gwybodaeth ar gael i bawb.
Rydyn ni’n cynnig Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Hygyrch.
77 Ffordd Conwy, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7LN