Cwynodd Miss X am ymddygiad staff Cyngor Abertawe (“y Cyngor”) o fis Mai 2024 ymlaen, pan wnaeth gais i’r Cyngor benderfynu a oedd gan ei mab anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”), tan ddiwedd gwrandawiad apêl Tribiwnlys ym mis Ionawr 2025. Cwynodd Miss X wrth y Cyngor yn dilyn y gwrandawiad Tribiwnlys, a nododd ei siom ynghylch methiant y Cyngor i ddeall y gofynion statudol ynghylch ADY a’r methiant i ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf. Ymatebodd Miss X i ymateb cychwynnol y Cyngor, gan fynegi anfodlonrwydd nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â’i phryderon, ond ni chafodd ymateb.
Dywedodd y Cyngor nad oedd wedi ymateb i Miss X gan ei bod wedi cwyno wrth yr Ombwdsmon. O ganlyniad, ni chafodd Miss X y cyfle i uwchgyfeirio ei chŵyn i gam 2 gweithdrefn gwyno’r Cyngor.
O fewn 4 wythnos, cytunodd y Cyngor i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2 Miss X. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y cam hwn wedi datrys cwyn Miss X a chafodd ei gau ar y sail hon.