Dyddiad yr Adroddiad

25/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Addysg

Cyfeirnod Achos

202309808

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Cyngor wedi methu â sicrhau bod cwyn diogelu a wnaeth ym mis Tachwedd 2023 yn dilyn niwed i’w phlentyn yn ei ysgol gynradd wedi’i hymchwilio’n llawn ac ni chafodd ymateb ganddynt.

Roedd yr ysgol wedi gwrthod ymchwilio i’w chŵyn gan ei bod o’r farn ei bod yn sylweddol yr un fath â chŵyn gynharach yr oedd Mrs A wedi’i gwneud, a oedd wedi cael ei ymchwilio. Dywedodd Mrs A fod y Cyngor wedi caniatáu i’r ysgol dan sylw osgoi proses gwyno briodol a chadarn. Dywedodd fod hyn yn golygu na chafodd unrhyw atebion ynghylch pam fod ei phlentyn wedi cael ei niweidio.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus, er bod tebygrwydd thematig rhwng y ddwy gŵyn yr oedd Mrs A wedi’u gwneud, eu bod yn ddigon gwahanol fel bod casgliad y Cyngor, a oedd yn nodi bod cwynion yn sylweddol yr un fath, yn afresymol ac nad oedd yn unol â chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru.

Fel datrysiad cynnar i’r gŵyn hon, ac yn lle cynnal ymchwiliad, ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ofyn i’r ysgol, o fewn 3 mis, i ailystyried ei safbwynt mewn perthynas â chŵyn Mrs A ym mis Tachwedd 2023.