Cwynodd Mr E bod Cyngor Sir y Fflint wedi gwrthod cais am gludiant ysgol i’w ail fab er ei fod wedi cymeradwyo’r cais ar gyfer ei fab hŷn yn y flwyddyn academaidd flaenorol.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu rhoi esboniad llawn am ei benderfyniad oherwydd nad oedd wedi darparu gwybodaeth bwysig ynghylch pam yr oedd yn gwrthod cais yr ail fab. Canfu bod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth ychwanegol i Mr E.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Roedd wedi ceisio ac wedi cael y Cyngor i gytuno i ysgrifennu at Mr E, cyn pen 10 diwrnod gwaith, a chynnwys yr wybodaeth yr oedd wedi methu ei throsglwyddo yn ei ymateb i’r gŵyn a’i ymddiheuriad.