Dyddiad yr Adroddiad

04/02/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Addysg

Cyfeirnod Achos

202309944

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss F a Mr G fod Cyngor Sir y Fflint wedi methu ag ymateb i’w cwyn yn ymwneud â chludiant i’r ysgol. Roedd Miss F a Mr G wedi cwyno i ddechrau ym mis Medi 2023 ac wedi gwneud cais i’r gŵyn gael ei huwchgyfeirio ymhellach ym mis Ionawr 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag uwchgyfeirio’r gŵyn i Gam 2 ei weithdrefn gwyno ym mis Ionawr 2024 pryd y gofynnwyd iddo wneud hynny, a oedd wedi achosi rhwystredigaeth i Miss F a Mr G. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss F a Mr G am fethu ag uwchgyfeirio eu cwyn, esbonio pam na chafodd y gŵyn ei huwchgyfeirio, cynnig iawndal o £25, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 2 o fewn 4 wythnos.