Dyddiad yr Adroddiad

03/28/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202309558

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) am y ffordd y deliodd ag ymosodiad honedig a bygythiadau diweddar o ymosod gan gyd-aelod o grŵp cymorth i oedolion awtistig oedd yn cael ei redeg gan y Bwrdd Iechyd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod sut y deliwyd â’r ymosodiad honedig, a ddigwyddodd yn 2018, allan o amser iddi ei ystyried. Fodd bynnag, ni chytunodd yr Ombwdsmon â sylwadau’r Bwrdd Iechyd na allai reoli bygythiadau a wnaed ‘y tu allan i’r Bwrdd Iechyd’ oherwydd roedd yn glir bod y bygythiadau’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau’r grŵp a chyfeirio’n uniongyrchol at y grŵp.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ail-ystyried, o fewn 20 diwrnod gwaith, y mater yn ymwneud â’r negeseuon bygythiol a anfonwyd at Miss A a goblygiadau posib hyn i’r grŵp, gan roi ymateb ysgrifenedig llawn iddi’n rhoi sylw i’w phryderon am y negeseuon bygythiol.