Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) wedi ymateb yn briodol i gŵyn yr oedd wedi’i chyflwyno ar ran ei wraig, mewn perthynas ag oedi o ran llawdriniaeth cataractau.
Canfu’r asesiad, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr A, nad oedd wedi mynd i’r afael yn briodol â’r pryderon a godwyd ganddo. Roedd hynny gyfwerth â chamweinyddu, a achosodd i Mr A ddioddef anghyfiawnder.
Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnal ymchwiliad ac i ymateb yn llawn i gŵyn Mr A, ac i ymddiheuro am beidio â gwneud hynny yn y lle cyntaf.
Yn ogystal, rhoddodd y Bwrdd Iechyd sicrwydd y byddai’n adolygu cynnwys ei lythyrau ymateb i sicrhau bod achwynwyr yn cael gwybod y gallent, pan fo’n briodol, fynd yn ôl at y Bwrdd Iechyd os oeddent yn anfodlon â’i ymateb cychwynnol.