Cwynodd Miss S fod y Gymdeithas, er ei bod wedi codi pryderon am un o swyddogion tai Cymdeithas Dai Clwyd Alyn, wedi caniatáu i’r swyddog tai gysylltu â Miss S wedi hynny.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu ag uwchgyfeirio pryderon Miss S o dan ei gweithdrefn gwyno statudol ac wedi methu â chydnabod natur y pryder. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss S.
Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas â chais yr Ombwdsmon i roi ymddiheuriad i Miss S am ei methiannau a rhoi ymateb ffurfiol o fewn 30 diwrnod gwaith.