Dyddiad yr Adroddiad

17/02/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Aberffraw

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202205499

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod y Cyngor Cymuned wedi methu â gweithredu yn unol â’r Polisi Achwynwyr Rheolaidd neu Achwynwyr Blinderus (“y polisi”) ynghylch llythyr a gyhoeddodd ym mis Mawrth 2022.

Nododd yr Ombwdsmon, i raddau helaeth, fod y Cyngor Cymuned wedi gweithredu’n unol â’r polisi. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y llythyr yn darparu gwybodaeth fanylach am y drefn adolygu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar ôl ceisio a chael cytundeb y Cyngor Cymuned i wneud y canlynol:

1. Ymddiheuro i Mrs X am ei fethiant i wneud y canlynol:

• ei hysbysu o’r weithdrefn adolygu;

adolygu’r statws ‘rheolaidd neu flinderus’ o fewn 6 mis h.y. 16 Medi 2022 gan fod yr adolygiad wedi cael ei gynnal ar 19 Hydref 2022.

• rhoi gwybod iddi’n ffurfiol am benderfyniad yr adolygiad ym mis Hydref 2022.

2. Rhoi gwybod i Mrs X am benderfyniad yr adolygiad a wnaed ym mis Hydref 2022.

3. Cynnal adolygiad o’r statws ‘rheolaidd neu flinderus’ o leiaf bob chwe mis.

Cytunodd y Cyngor Cymuned i weithredu’r camau hyn o fewn 20 diwrnod gwaith.