Dyddiad yr Adroddiad

04/09/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202304536

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss A nad oedd Cymdeithas Tai Hafod (y Gymdeithas Dai) wedi gweithredu’n unol â’i pholisi a’i gweithdrefn mewn ymateb i’w chwynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ynglŷn â pharcio a niwsans sŵn rhwng mis Chwefror 2021 a mis Ionawr 2023. Ar ben hynny, o ran yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, nid oedd y Gymdeithas Dai wedi ystyried ei hanabledd ac a fyddai’n briodol gwneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn olaf, dywedodd Ms A na wnaeth y Gymdeithas Dai ymdrin â’i chŵyn yn unol â’i phroses gwyno ac na roddwyd sylw digonol i’r materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a godwyd ganddi yn ymateb y Gymdeithas Dai i’w chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon na wnaeth y Gymdeithas Dai weithredu’n unol â’i pholisi a’i gweithdrefn ymddygiad gwrthgymdeithasol bob amser, nac yn wir arferion gorau fel y’u nodir gan Lywodraeth Cymru. Canfu hefyd y gellid bod wedi cyfathrebu’n fwy effeithiol â Miss A. O ran cadw cofnodion, canfu’r Ombwdsmon nad oedd bob amser yn glir pryd y cysylltwyd â hi na beth oedd y cynllun rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn achos Miss A. Hefyd, nid oedd anghywirdebau yn rhai o’r ymatebion a roddodd y Gymdeithas Dai yn ddefnyddiol. Nododd yr Ombwdsmon na wnaeth Miss A ddychwelyd logiau sŵn bob amser a bod cyfnodau pan na roddodd wybod am gwynion ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cafwyd achosion hefyd pan wnaeth y Gymdeithas Dai weithredu. Er gwaethaf hyn, gwnaeth diffygion yn y ffordd y dilynodd y Gymdeithas Dai ei pholisi a’i gweithdrefn ymddygiad gwrthgymdeithasol ychwanegu at ofid Miss A ac achosi anghyfiawnder. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod methiannau’r Gymdeithas Dai yn gyfystyr â chamweinyddu. Yn sgil y diffygion hyn, i’r graddau hynny’n unig, cafodd y rhan hon o gŵyn Miss A ei chadarnhau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi dangos diffyg ymgysylltu ystyrlon mewn perthynas â phroblemau iechyd Miss A. Arweiniodd hyn at golli cyfleoedd i ystyried addasiadau rhesymol yn gynnar. Nododd yr Ombwdsmon hefyd fethiant y Gymdeithas Dai i nodi a chydnabod hyn fel mater yn ei hymatebion i’r gŵyn, gan gynnwys i swyddfa’r Ombwdsmon. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai ymholiadau prydlon ynglŷn ag addasiadau rhesymol fod wedi rhoi gwell dealltwriaeth i’r Gymdeithas Dai o effaith y sŵn a’r parcio ar Miss A, o ystyried ei diagnosis o diwmor ar yr ymennydd, a hynny’n gynharach.  Daeth i’r casgliad bod methiant y Gymdeithas Dai i ystyried addasiadau rhesymol yn brydlon, gwneud ymholiadau a chofnodi a dogfennu hyn yn ddigonol yn gyfystyr â chamweinyddu. Hefyd, achosodd hyn anghyfiawnder i Miss A oherwydd y gofid ychwanegol. Cafodd y rhan hon o gŵyn Miss A ei chadarnhau hefyd.

Yn olaf, canfu’r Ombwdsmon ddiffygion yn nhrefniadau’r Gymdeithas Dai ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys cadernid ei hymateb i gŵyn Miss A. O ganlyniad i hyn, canfu’r Ombwdsmon achos o gamweinyddu ar ran y Gymdeithas Dai. Daeth hefyd i’r casgliad bod anghyfiawnder wedi cael ei achosi i Miss A am fod yn rhaid iddi gwyno ymhellach er mwyn cael atebion. Cafodd yr elfen hon o gŵyn Miss A ei chadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Gymdeithas Dai roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss A am y methiannau a ganfuwyd yn ogystal ag adolygu ei dyletswydd cydraddoldeb mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas ag ymholiadau a dogfennau yn ymwneud ag addasiadau rhesymol. Hefyd, gofynnwyd i’r Gymdeithas Dai rannu’r adroddiad â hyrwyddwr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ei Bwrdd.