Dyddiad yr Adroddiad

10/09/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Rhondda

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202402638

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cymdeithas Tai Rhondda Cyf. (“y Gymdeithas Dai”) wedi caniatáu i’w gymydog osod ffens ar hyd ffin y dreif a rennir ganddynt. Dywedodd fod y ffens yn effeithio ar ei allu i barcio ar ei ddreif.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Gymdeithas Dai, cyn rhoi caniatâd i godi’r ffens, fod wedi ystyried yr effaith y gallai hyn ei chael ar allu Mr A i ddefnyddio ei ddreif. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai drefnu dyddiad i syrfëwr a swyddog tai ymweld ag eiddo Mr A i ailwerthuso’r sefyllfa, a hynny o fewn chwe wythnos, a chytunodd y Gymdeithas Dai i wneud hynny.