Dyddiad yr Adroddiad

15/12/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Wales & West

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202004278

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr Y fod Cymdeithas Dai Cymru a’r Gorllewin wedi methu ag ymchwilio’n iawn i’w gwynion o Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol (“ASB”) yn erbyn ei gymydog, oedd hefyd yn denant i’r Gymdeithas (“Mr X”) rhwng Mehefin 2018 a Mai 2020.

Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth o unrhyw gwynion ffurfiol nac anffurfiol gan Mr Y yn erbyn Mr X rhwng Mehefin 2018 ac Ionawr 2020. Fodd bynnag, casglodd fod diffygion yn y ffordd y deliodd y Gymdeithas â chwynion ASB Mr Y rhwng Ionawr a Mai 2020, sef cyfathrebu gwael (gan gynnwys methu ag ymateb i bryder am ASB a leisiwyd mewn tecst gan Mr Y) a methu â diweddaru Mr Y ar y camau oedd y Gymdeithas yn eu cymryd i ymateb i’w gwynion. Roedd hyn yn groes i ofynion ei Bolisi ASB. Ni allai’r Ombwdsmon werthuso camau’r Gymdeithas yn erbyn ei Gweithdrefn ASB (oherwydd nad oedd ganddi weithdrefn iawn yn ei lle ar y pryd – dywedodd y Gymdeithas ei bod yn defnyddio canllawiau eraill ar gyfer staff) oedd wedi llesteirio ar allu’r Ombwdsmon i benderfynu a wnaeth y Gymdeithas ymchwilio’n iawn i gwynion ASB Mr Y. Casglodd yr Ombwdsmon hefyd, er y gwyddai’r Gymdeithas faint o effaith oedd y digwyddiadau yn ei gael ar iechyd meddwl Mr Y, na wnaeth ddiweddaru ei chofnodion na holi Mr Y am ei anghenion ac a oedd angen addasiadau rhesymol arno. Roedd y diffygion hyn yn gyfystyr â chamweinyddu gan achosi anghyfiawnder i Mr Y.

Cytunodd y Gymdeithas i ymddiheuro wrth Mr Y a thalu iawndal iddo am y poen meddwl a achoswyd gan y ffordd y deliodd â chŵyn Mr Y. Cytunodd hefyd i baratoi a chyhoeddi Gweithdrefn ASB, adolygu ei Pholisi ASB a threfnu hyfforddiant i staff perthnasol ar y Weithdrefn ASB.