Dyddiad yr Adroddiad

24/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202405702

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod y Cyngor wedi methu â gosod inswleiddiad rhag sŵn yn ei chartref. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu ag ymateb yn briodol i adroddiadau o leithder a llwydni yn ei chartref.
Canfu’r Ombwdsmon, mewn perthynas ag insiwleiddio’r cartref rhag sŵn, fod Mrs B wedi cael ymateb i’r gŵyn ynghylch y mater hwn dros 12 mis ynghynt. Gan nad oedd yn ymddangos bod unrhyw amgylchiadau eithriadol a oedd yn atal Mrs B rhag cwyno i’r Ombwdsmon o fewn 12 mis, ystyriwyd bod y mater hwn yn rhy hwyr i ymchwilio iddo. Canfu’r Ombwdsmon hefyd, er bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o waith i fynd i’r afael â lleithder a llwydni yng nghartref Mrs B, nad oedd rhai materion wedi cael sylw o hyd.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i rannu adroddiad archwilio yn ymwneud â’r simnai yng nghartref Mrs B gyda Mrs B a’r swyddfa hon, trefnu gyda Mrs B i gynnal archwiliad o’i chartref, a gwneud unrhyw waith angenrheidiol sy’n deillio o’r archwiliad hwn. Cytunodd hefyd, o fewn mis i gwblhau unrhyw waith, y byddai’n cynnal archwiliad eto yng nghartref Mrs B ac yn trefnu arolwg lleithder a llwydni annibynnol pe na bai’r gwaith wedi bod yn effeithiol.