Cwynodd Mr C ar ran ei bartner, Ms W, fod Tai Cymunedol Bron Afon Cyf wedi cyhoeddi Hysbysiad Tresmasu yn ei erbyn, gan ei atal rhag mynd i mewn i eiddo Ms W, heb ystyried y gefnogaeth a roddodd iddi. Cwynodd Mr C hefyd fod cymydog i Ms W wedi torri ei gytundeb tenantiaeth ac nad oedd pryderon Mr C/Ms W ynghylch hyn wedi cael sylw. Cwynodd Mr C hefyd nad oedd y pryderon a godwyd gan Ms W am ei Swyddog Tai wedi cael eu hymchwilio’n briodol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr ymateb i gŵyn Cam 2 a gafodd Mr C yn mynd i’r afael â’i bryderon ynghylch yr Hysbysiad Tresmasu neu’r cymydog yn torri ei gytundeb tenantiaeth. Canfuwyd hefyd nad oedd y gŵyn ddiweddaraf a gyflwynwyd gan Ms W, a oedd yn cynnwys pryderon am y Swyddog Tai, wedi dod i law.
Cytunodd y Gymdeithas Dai, o fewn 20 diwrnod gwaith, i roi ymateb pellach i gŵyn Cam 2 i Mr C a oedd yn mynd i’r afael â’i bryderon am yr Hysbysiad Tresmasu a’r cymydog. Cytunodd hefyd i gynnal ymchwiliad i’r gŵyn ddiweddaraf a wnaed, a pham nad oedd y cyflwyniad i’r wefan wedi dod i law. Cytunodd i roi canlyniad yr ymchwiliad hwn i Mr C. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau hyn yn rhesymol i ddatrys y gŵyn hon a chafodd ei gau ar y sail honno.