Cwynodd Mrs V nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Ionawr 2024.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod i Mrs V bod oedi cyn ymateb i’w chŵyn ac nad oedd wedi rhoi rheswm am hynny. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs V. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Bwrdd Iechyd i gytuno i ymddiheuro i Mrs V ac i dalu iawndal o £50 iddi fel cydnabyddiaeth o’r amser roedd hi wedi’i dreulio a’r drafferth roedd hi wedi’i gymryd i gwyno i’r Ombwdsmon. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i gŵyn Mrs V cyn pen 4 wythnos.