Dyddiad yr Adroddiad

23/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202405075

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A oherwydd ei bod yn anhapus na allai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sicrhau cludiant addas ar ôl i ddarparwr roi’r gorau i’w gwasanaeth, gan olygu nad oedd ei mab anabl wedi gallu mynychu gwasanaethau dydd ers mis Ebrill 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi sicrhau les cerbyd bob mis i ddechrau, ond nad oedd y cerbyd yn addas mwyach ar ôl i fab Ms A gael cadair olwyn fodur. Cafodd cludiant ei atal dros dro ym mis Ebrill 2024 ac wedyn rhoddodd y darparwr y gorau i’w wasanaethau. Er gwaethaf ymdrechion i ddod o hyd i ddarparwr arall, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi sicrhau cludiant addas. Felly, roedd mab Ms A yn dioddef anghyfiawnder heb unrhyw fai arno ef.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms A am yr oedi, i ddarparu ateb trafnidiaeth dros dro tra bo opsiynau tymor hir yn cael eu hystyried ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms A am drafnidiaeth dros dro, o fewn 1 mis, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.