Dyddiad yr Adroddiad

06/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202206246

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms C am driniaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd. Yn dilyn apwyntiad ym mis Mai 2021 gyda seiciatrydd ymgynghorol, fe wnaethom ymchwilio i weld a oedd y penderfyniad nad oedd ganddi hawl i driniaeth i fynd i’r afael â’i gorfwyta mewn pyliau, wedi’i wneud yn briodol ac yn unol â chanllawiau perthnasol. Fe wnaethom ystyried, gan gadw mewn cof y wybodaeth a oedd ar gael i’r seiciatrydd ymgynghorol a oedd yn rhoi’r driniaeth ar adeg yr ymgynghoriad â Ms C ym mis Awst 2021, a gafodd hi y driniaeth ddigonol yn dilyn hynny, gan gynnwys a ddylai fod wedi cael cynnig triniaeth EMDR o’r dyddiad hwn. Yn olaf, fe wnaethom ymchwilio i sut roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â chŵyn Ms C, yn benodol bod ymateb i gŵyn o 5 Hydref 2021 wedi rhestru awdur yr adroddiad fel y person yr oedd Ms C wedi gwneud cwyn amdano, a bod ffeithiau anghywir yn rhai o ymatebion y Bwrdd Iechyd.

Fe wnaethom ganfod nad oedd y Bwrdd Iechyd yn cynnig cymorth priodol i bobl sy’n gorfwyta mewn pyliau, a oedd yn gwrth-ddweud canllawiau cenedlaethol perthnasol. Er bod diffyg darpariaeth ar gyfer anhwylderau bwyta yn fater ehangach yn genedlaethol, roedd hyn yn dal yn anghyfiawnder i’r rheini yn yr ardal yr oedd angen y cymorth hwn arnynt, ac yn enwedig i Ms C, a gafodd wybod i ddechrau y gallai fod gwasanaeth i’w chefnogi. Gwelsom fod y Bwrdd Iechyd wedi cael digon o dystiolaeth bod Ms C wedi cael diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma erbyn yr ymgynghoriad ym mis Awst, ac felly dylid bod wedi gwneud ymdrechion i ddod o hyd i driniaeth addas (a allai fod wedi cynnwys EMDR neu ddewis arall priodol) o’r dyddiad hwn. Gwelsom hefyd broblemau sylweddol gyda’r ffordd yr ymdriniwyd â nifer o gwynion Ms C, gan ei bod yn ymddangos bod rhai o’r canfyddiadau wedi’u seilio ar wybodaeth anghywir, ac nad oedd yr ymchwiliadau i gwynion bob amser yn cael eu cynnal yn unol â’r canllawiau perthnasol, sy’n nodi na ddylai aelod o staff fod yn rhan o gŵyn sy’n ymwneud â nhw. Felly, fe wnaethom gadarnhau’r cwynion hyn.

Fe wnaethom argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms C am y materion a nodwyd gennym a chynnig taliad o £458 iddi, i gydnabod y nifer o faterion yn ymwneud â delio â chwynion a nodwyd ac fel ad-daliad rhannol am y driniaeth EMDR yr oedd wedi’i hariannu’n breifat. Roeddem hefyd yn argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa’r holl staff clinigol perthnasol o’r hyn y gall/na all ei wasanaeth anhwylderau bwyta ei wneud, ac y dylai dynnu sylw’r staff sy’n delio â chwynion at yr adroddiad hwn, eu hatgoffa o’r gofynion perthnasol o fewn y weithdrefn Gweithio i Wella mewn perthynas â phwy ddylai ymchwilio i gŵyn, a’r gofyniad i gynnal ymchwiliad trylwyr. Yn olaf, roeddem wedi argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd fynd ati i archwilio opsiynau ar gyfer darparu triniaeth i bobl sy’n gorfwyta mewn pyliau, fel yr argymhellwyd gan ganllawiau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, gan gynnwys opsiynau preifat neu y tu allan i’r ardal os oes angen, ac adrodd ei ganfyddiadau i’r Ombwdsmon.