Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu â rhoi unrhyw eglurder iddo ynghylch ei gynllun triniaeth ac roedd yn teimlo ei fod yn cael ei drosglwyddo rhwng adrannau gwahanol heb unrhyw ddatrysiad.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ystyried pryderon Mr B drwy ddatrysiad cynnar, ond ei fod wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i bryderon Mr B, er gwaethaf cais gan Mr B i wneud hynny. Penderfynodd yr Ombwdsmon na wnaeth y Bwrdd Iechyd ddilyn ei broses gwyno ei hun yn briodol, a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B a thalu £50 iddo i wneud iawn am beidio â dilyn y broses gwyno. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi ymateb Gweithio i Wella o fewn 30 diwrnod gwaith.