Cwynodd Miss X nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi ymateb i’w chwynion a anfonodd ato ym mis Mai 2023 a mis Ionawr 2024.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ymateb i gwynion Miss X a’i fod wedi gwneud camgymeriad wrth gofnodi ei hail gŵyn fel canmoliaeth yn hytrach na chŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i Miss X ac wedi arwain hi i gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn (o fewn pythefnos), a ddylai hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr esgeulustod a’r oedi cyn cofnodi’r gŵyn yn gywir ac ymateb iddi. Dylai’r ymateb hefyd gynnwys esboniad a manylion y gwelliannau a wnaed i atal hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol, yn ogystal â thaliad iawndal o £50.