Dyddiad yr Adroddiad

26/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202400377

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod cynnwys Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun a gafodd gan y Cyngor yn cynnwys nifer o sgyrsiau mewnol a oedd yn amhroffesiynol ac yn anghwrtais.

Canfu’r ymchwiliad enghreifftiau o gyfathrebu yn y deunydd a ddarparwyd nad oedd yn ymddangos fel pe baent yn trin cwyn Mr A â sensitifrwydd na pharch.

Er mwyn datrys cwyn Mr A, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am ddiffyg proffesiynoldeb y Cyngor wrth ystyried ei gŵyn ac i atgoffa staff perthnasol o egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid da. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau yr oedd y Cyngor wedi cytuno i’w cymryd yn rhesymol a bod y mater wedi’i setlo.