Dyddiad yr Adroddiad

14/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202408250

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ymateb i’r rhan fwyaf o’r materion a gododd yn ei chŵyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd Ms A fod y Cyngor wedi honni’n anghywir ei fod wedi mynd i’r afael â’r materion mewn cyfarfod blaenorol. Yn ôl Ms A, dywedwyd wrthi nad y cyfarfod oedd y fforwm priodol i drafod ei phryderon.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth bod pryderon Ms A wedi cael eu trafod yn flaenorol. Pan gyflwynodd Ms A gŵyn ffurfiol, gwrthododd y Cyngor ymateb i bob un o’r materion heblaw un, ac felly methodd â chadw at ei bolisi cwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms A, ac i ymateb i’w chŵyn yn unol â Cham 1 Polisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, a hynny o fewn pythefnos.