Dyddiad yr Adroddiad

04/04/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202308563

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi methu â darparu lle i’w mab yn eu cartref a oedd yn diwallu ei anghenion meddygol ac a oedd yn hyrwyddo urddas a pharch. Yn hyn o beth, mynegodd Mrs A bryderon sylweddol nad oedd y Cyngor wedi cynnal asesiad Therapi Galwedigaethol cynhwysfawr a oedd yn ystyried y dirywiad yn iechyd ei mab yn ogystal ag anghenion y teulu cyfan.

Wrth ystyried cwyn Mrs A, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mrs A wedi cael unrhyw fath o ymateb ffurfiol i’r gŵyn yr oedd wedi’i chyflwyno i’r Cyngor yn wreiddiol ar 7 Mawrth 2023. Fel ymdrech i fynd i’r afael â chŵyn Mrs A, roedd y Cyngor wedi trefnu bod adolygiad allanol yn cael ei gynnal ond nid oedd wedi cael ei dderbyn gan Mrs A ar yr adeg y cysylltodd â swyddfa’r Ombwdsmon. Cysylltodd swyddfa’r Ombwdsmon â’r Cyngor a chafodd wybod yn ddiweddarach bod yr adolygiad allanol wedi dod i law ers hynny. Cytunodd y Cyngor i setlo cwyn Mrs A ar y sail ei fod, o fewn 1 mis, yn rhannu canfyddiadau’r adolygiad allanol gyda hi ac yn cadarnhau pa gamau yr oedd am eu cymryd o ganlyniad i argymhellion yr adroddiad. Cytunodd y Cyngor hefyd i ymddiheuro i Mrs A am yr oedi cyn ymateb i’w chwyn, ac i gynnig taliad o £250 iddi am yr amser a’r drafferth a olygodd iddi fwrw ymlaen â’r gŵyn.