Dyddiad yr Adroddiad

12/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202401329

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y camau a gymerwyd yn dilyn digwyddiad yn ysgol ei fab. Dywedodd pan gwynodd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) am y mater hwn nad oedd yr ymateb a gafodd yn mynd i’r afael yn ddigonol â’i bryderon.
Mae ymddygiad yr ysgol yn dilyn y digwyddiad wedi’i eithrio o awdurdodaeth yr Ombwdsmon. O’r herwydd, dim ond yr agweddau ar gŵyn Mr A a oedd yn ymwneud â’i gŵyn i’r Cyngor yr ystyriodd yr Ombwdsmon. Ni chydnabu’r Cyngor gŵyn Mr A ac ni ddywedodd wrtho na fyddai’n cael ei hystyried o dan ei weithdrefn gwyno. Nid oedd yr ymateb a gafodd Mr A gan y Cyngor ychwaith yn mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd ganddo nac yn rhoi esboniad llawn pam nad oedd hyn yn bosib.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am y methiant i gydnabod ei gŵyn ac esbonio pam na chafodd ei gŵyn ei hystyried o dan ei bolisi cwynion. Cytunodd hefyd, os yn bosibl, i roi rhagor o fanylion i Mr A am yr adolygiad y cyfeiriwyd ato yn yr ymateb i’r gŵyn a gafodd. Os nad yw hyn yn bosibl, cytunodd y Cyngor i roi esboniad i Mr A ynghylch pam na ellir rhannu’r wybodaeth hon.