Dyddiad yr Adroddiad

19/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202308369

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cyngor Caerdydd wedi methu â chymryd camau i ddatrys ei phryderon parhaus am effaith lleoliad tŷ gwydr ei chymydog.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwybod am y problemau ers dros 27 mis. Wrth ymateb i ymyriad blaenorol gan yr Ombwdsmon, roedd y Cyngor wedi dechrau ymchwilio i’r materion ond heb gymryd camau pellach ers dros 6 mis. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor y byddai, o fewn 10 diwrnod gwaith, yn ymddiheuro wrth Miss A, cynnig iawndal o £150 ac egluro pa gamau y mae’n eu cymryd i ddatrys y sefyllfa. Hefyd, i ddiweddaru Miss A yn fisol nes y byddai’r mater yn cael ei setlo.