Dyddiad yr Adroddiad

04/03/2024

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202309258

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs T nad oedd Tai Cymoedd i’r Arfordir wedi ymateb i’w phryder am daliad rhent coll.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu ag ymateb i gŵyn Mrs T am daliad rhent coll. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Mrs T i ymddiheuro am y methiant a nodwyd ac i roi ymateb pellach i’r gŵyn o fewn pythefnos.