Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Ariannu

Cyfeirnod Achos

202305989

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Eiriolwr ar ran Mrs A am y gofal a gafodd ei merch, Ms B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd Cyntaf”) a bwrdd iechyd arall (“yr Ail Fwrdd Iechyd”) yn 2022. Yn benodol, cwynodd Mrs A am y ffordd y cafodd y cais am gyllid ar gyfer llawdriniaeth Ms B ei weinyddu gan y Bwrdd Iechyd Cyntaf, a’r cyfathrebu â hi a’r Ail Fwrdd Iechyd yn y cyswllt hwnnw.

Canfu’r ymchwiliad fod dryswch yn y Bwrdd Iechyd Cyntaf ynghylch y broses ar gyfer trefnu cyllid rhyngddo a’r Ail Fwrdd Iechyd. Roedd hefyd wedi methu cyfathrebu’n briodol â Mrs A a Ms B, a’r Ail Fwrdd Iechyd, ynghylch canlyniad y cais am gyllid mewn perthynas â llawdriniaeth Ms B. Roedd hyn yn enghraifft o gamweinyddu ac felly roedd yr ansicrwydd ynghylch a oedd wedi’i ganiatáu yn anghyfiawnder i Mrs A a Ms B. O ganlyniad, cafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf i argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs A a Ms B am y camweinyddu, ac i dalu iawndal o £250 i Mrs A i gydnabod yr amser a’r drafferth a wynebodd wrth gyflwyno’r gŵyn hon ar ran Ms B. Yn ogystal, cytunodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf i dalu iawndal o £500 i Ms B i gydnabod y straen a’r rhwystredigaeth sylweddol a ddioddefodd yn ystod y broses o wneud cais am gyllid oherwydd ei fethiant. Yn olaf, cytunodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf i adolygu a diwygio ei broses gyfathrebu yn dilyn canlyniad cais am gyllid Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw, gan sicrhau bod y broses newydd yn cynnwys cadarnhad amserol o’r canlyniad i’r claf a’r awdurdod a fydd yn darparu’r driniaeth.