Dyddiad yr Adroddiad

29/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202308409

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi methu â chymryd camau priodol i ddiwallu ei anghenion gofal cymdeithasol ar ôl cwblhau ymchwiliad cwynion Cam 2 ym mis Mehefin 2023.
Nododd yr Ombwdsmon fod ffactorau lliniaru a oedd wedi’i gwneud yn anoddach i’r Cyngor ddiwallu anghenion nas diwallwyd Mr A yn dal yn berthnasol ar ôl mis Mehefin 2023. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod cyfle wedi’i golli ar ôl mis Mehefin 2023 i ymgysylltu’n fwy effeithiol â phryderon Mr A ynghylch argymhellion yr adroddiad ymchwiliad Cam 2. O ganlyniad, bu oedi wrth drefnu ailasesiad o anghenion Mr A a gweithredu ymdrechion i archwilio ffyrdd o ddiwallu ei anghenion nas diwallwyd.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn briodol rhoi’r gorau i’r ymchwiliad ar y sail bod y Cyngor wedi cytuno i gymryd y camau canlynol, o fewn 1 mis, i ailadeiladu’r berthynas o ymddiriedaeth â Mr A:
a) Ysgrifennu at Mr A i ymddiheuro am y methiant i ymgysylltu’n effeithiol ag ef mewn perthynas â’i bryderon ynghylch argymhellion adroddiad ymchwiliad Cam 2, ac am yr oedi o ganlyniad i hynny wrth drefnu ailasesiad o’i anghenion;
b) Cynnig cyfle i Mr A gael cyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, i’w gynnal ar ôl cwblhau’r ailasesiad o’i anghenion.