Dyddiad yr Adroddiad

12/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202401524

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am wybodaeth anghywir mewn dogfennau a baratowyd gan Gyngor Sir Powys (“y Cyngor”).

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod adroddiad yr ymchwiliad yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn gwrth-ddweud y wybodaeth yn y cofnodion neu na allai gael ei dilysu gan y wybodaeth honno.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ychwanegu nodyn at y ffeil gwynion i gofnodi’r pwyntiau roedd Mrs A yn anghytuno â nhw yn yr adroddiad a nodi’r cywiriadau, ac ailasesu pwynt olaf ei chŵyn er mwyn penderfynu a gaiff y pwynt ei gadarnhau ai peidio, a hynny o fewn 28 diwrnod, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.