Dyddiad yr Adroddiad

04/24/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400117

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu â rhoi sylw i wahanol faterion yn ei chartref, a oedd yn cynnwys dŵr yn gollwng a ffens wedi’i difrodi. Cwynodd hefyd nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb i’r cwynion a wnaeth am y materion.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymdrechion y Gymdeithas i gyfathrebu â Ms D yn wael. Roedd yn teimlo bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Ms D, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am y diffyg cyfathrebu ac am yr oedi. Dylai hefyd gynnwys esboniad am yr oedi, y camau y mae’n eu cymryd i ddatrys y materion sydd heb eu datrys ac iawndal ariannol o £150.