Cwynodd Ms A fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu â gweithredu ar gyngor gan gontractwyr, bod angen newid ei drws ffrynt.
Roedd y Gymdeithas Dai yn cydnabod bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan ei chontractwyr am osod drws newydd yn aneglur. I gydnabod hyn, cynigiodd iawndal o £150 i Ms A. Cadarnhaodd y Gymdeithas Dai hefyd ei bod yn mynd i newid y drws, ond ni ddarparwyd amserlen. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai y byddai, o fewn mis, yn ymddiheuro i Ms A ei bod wedi gorfod cysylltu â’r Ombwdsmon, ac y byddai’n gosod drws ffrynt newydd.