Dyddiad yr Adroddiad

16/05/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400740

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu â gwneud y gwaith atgyweirio yr oedd ei angen ar ffens ei ardd ac nad oedd wedi ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn a wnaeth.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol gan y Gymdeithas i ymgymryd â’r gwaith atgyweirio ac i ymateb i gŵyn Mr T. Dywedodd fod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mr T. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Mr T, rhoi iawndal o £50 iddo am yr oedi a’r drafferth a achoswyd iddo wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i gwblhau’r gwaith ar y ffens yn ystod y 4 wythnos nesaf.