Dyddiad yr Adroddiad

04/06/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400730

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu â gwneud gwaith atgyweirio a oedd yn angenrheidiol i’w eiddo ac wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn a wnaeth iddi. Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi cwblhau’r gwaith atgyweirio, ond penderfynodd y bu oedi sylweddol cyn gwneud hynny ac oedi pellach cyn ymateb i gŵyn Mr B. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Gymdeithas i roi ymateb i Mr B i’w gŵyn sy’n cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i dalu iawndal o £100 i Mr B am yr amser a’r drafferth a gymerodd i gwyno i’r Ombwdsmon.