Cwynodd Miss A am yr amser a gymerodd Cymdeithas Tai Hafod i atgyweirio dŵr yn gollwng o bibell yn ei thŷ, a wnaeth fyrstio wedyn. Roedd hi’n cwyno bod hyn hefyd wedi arwain at gynnydd yn ei bil dŵr.
Penderfynodd yr Ombwdsmon na wnaethpwyd yn glir i Miss A faint o amser y byddai’n ei gymryd i atgyweirio’r gollyngiad cychwynnol, fodd bynnag, roedd y Gymdeithas Tai wedi atgyweirio’r bibell a oedd wedi byrstio o fewn 24 awr. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai y byddai’n ysgrifennu at Miss A o fewn 20 diwrnod gwaith i ymddiheuro am y dryswch ynghylch yr amser y byddai’n ei gymryd i atgyweirio’r gollyngiad cychwynnol ac y byddai’n ystyried talu iawndal am y cynnydd yn y bil dŵr am gyfnod y gollyngiad, pe bai Miss A yn darparu tystiolaeth o hyn.