Cwynodd Ms A fod y Gymdeithas Tai wedi methu â gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol i’w heiddo, er bod yr Ombwdsmon wedi cyfeirio’r mater ato’n flaenorol i ddelio ag ef.
Gan fod y Gymdeithas Tai wedi cytuno y byddai’n gwneud y gwaith, yn ymddiheuro i Ms A am yr oedi ac yn talu iawndal o £150, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y mater wedi’i setlo.