Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Newydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202308307

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X, tenant, am yr oedi cyn dechrau gwaith adfer strwythurol y tu allan i’r eiddo, y llwybrau, y wal allanol a’r draeniau. Dywedodd ei bod wedi gorfod mynd ar ôl y Gymdeithas ynglŷn â’r sefyllfa. Amlinellodd y peryglon baglu a charthffosiaeth o ganlyniad i’r gwaith sydd heb ei wneud.

Dywedodd y Gymdeithas ei bod wedi cwblhau cynlluniau ar gyfer y gwaith adfer angenrheidiol ond mai dim ond un tendr a ddaeth i law ar gyfer y gwaith. Felly, roedd yn chwilio am gontractwyr eraill a fyddai’n darparu dyfynbris ar gyfer y gwaith.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynglŷn â’r diffyg cynnydd neu unrhyw ddiweddariad ystyrlon i Ms A. Cytunodd y Gymdeithas i wneud y canlynol:
O fewn mis:

1. Ysgrifennu at Ms X i egluro’r sefyllfa bresennol yn ffurfiol mewn perthynas â’r gwaith sydd heb ei wneud, a phryd y mae’n debygol o gael ei ddechrau;

2. Wedyn, anfon ebost at Ms X unwaith y mis i roi gwybod am y camau mae wedi’u cymryd, a’r cynnydd a wnaed tuag at ddechrau’r gwaith adfer, nes bydd y gwaith wedi dechrau.