Dyddiad yr Adroddiad

16/08/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Rhondda

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400775

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs A am oedi cyn ymdrin â cheisiadau atgyweirio a wnaed ganddynt i Gymdeithas Tai Rhondda Cyf (“y Gymdeithas”) o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas wedi cyfathrebu â Mr a Mrs A ar sawl achlysur, ac yn enwedig rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2023.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas y byddai, o fewn 28 diwrnod, yn rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr a Mrs A am y methiannau cyfathrebu, yn ogystal â rhannu’r profiad o fewn y sefydliad fel pwyntiau dysgu a gwella i atal digwyddiadau tebyg, ac yn rhoi esboniad byr i Mr a Mrs A am unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad.