Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202401142

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cymdeithas Tai Unedig Cymru wedi methu â newid ei bondo ac nad oedd wedi ymateb i bryderon a godwyd ganddi ym mis Gorffennaf 2023.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Gymdeithas wedi methu ag uwchgyfeirio cwyn Miss X yn unol â’i phroses gwyno. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i gyhoeddi ymateb cam 2, o fewn 4 wythnos, i fynd i’r afael â’r atgyweiriadau oedd heb eu gwneud i gartref Miss X. Bydd yr ymateb yn rhoi amserlen ar gyfer y gwaith arfaethedig a phryd y bydd y gwaith gofynnol wedi’i gwblhau. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i ymddiheuro i Miss X am fethiant y gwasanaeth a’r oedi wrth gofnodi’r gŵyn, gan gynnig iawndal o £100 i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd Miss X i gwyno i’r Ombwdsmon.