Dyddiad yr Adroddiad

23/10/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202403503

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cymdeithas Tai Unedig Cymru wedi methu â gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol i’w chartref na darparu ymateb i’w chŵyn, a wnaeth hi ym mis Ebrill 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi gwneud rhywfaint o waith atgyweirio ond roedd oedi cyn gwneud y gwaith hwnnw.
Nid oedd wedi cymryd unrhyw gamau i ymchwilio na mynd i’r afael â’r pryderon mewn perthynas â drws ffrynt fflat Miss A. Ar ben hynny, nid oedd y Gymdeithas Dai wedi darparu ymateb ffurfiol i gŵyn Miss A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai, o fewn pythefnos, i ymddiheuro i Miss A am ei methiant i fynd i’r afael â’r materion gyda’r drws ffrynt, darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn a chynnig taliad o £100 i wneud iawn am amser a thrafferth Miss A yn cyflwyno’i chŵyn i’r Ombwdsmon.