Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Tai Unedig Cymru wedi methu â datrys materion cynnal a chadw yn eiddo ei gyn-bartner.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi ymateb i gŵyn Mr X, roedd wedi methu ag ymateb yn llawn i holl bryderon Mr X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi dryswch ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr X ac esboniad ynghylch pam na roddwyd sylw i’r gŵyn, ac i ddarparu ymateb cam 2 i’r gŵyn i Mr X, o fewn 3 wythnos.