Cwynodd Miss A na wnaeth y Gymdeithas Dai gwblhau gwaith ymchwilio ac atgyweirio a oedd yn ofynnol er mwyn datrys problemau sŵn, gan gynnwys cael mynediad i eiddo cyfagos er mwyn profi’r system dŵr poeth.
Canfu asesiad yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi ymateb yn llawn i gŵyn Miss A. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai gymryd y camau canlynol fel dewis arall yn lle ymchwiliad ffurfiol, a chytunodd y Gymdeithas Dai i’w cymryd:
- Cael mynediad i eiddo cyfagos a phrofi’r system dŵr poeth.
- Rhoi ymateb ffurfiol i’r gŵyn, gan gynnwys canlyniad y profion a chadarnhad o unrhyw gamau y bydd angen eu cymryd ynghyd ag amserlenni ar gyfer cwblhau.
Cytunodd y Gymdeithas Dai i gymryd y camau hyn o fewn pedair wythnos.