Dyddiad yr Adroddiad

04/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202309084

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss L fod Cyngor Abertawe wedi methu ag ymchwilio i achos lleithder a llwydni yn ei heiddo a’i fod wedi oedi cymryd camau i ddatrys y mater.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ymateb i gŵyn gychwynnol Miss L ac nad oedd wedi cofnodi pryderon diweddar Miss L fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss L i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd, cynnig iawndal o £75 iddi am yr amser a’r anghyfleustra o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.