Dyddiad yr Adroddiad

08/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202402725

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael gwared ar lwyn a oedd wedi hunanhadu i ochr ei eiddo. Dywedodd, er iddo adrodd am y mater rai blynyddoedd ynghynt, nad oedd y llwyn wedi cael ei dynnu o hyd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ei fod wedi cymryd amser i’r Cyngor ymateb i’r mater yr oedd yr achwynydd wedi adrodd arno gyntaf yn 2021. Oherwydd yr amser a basiodd, roedd y llwyn wedi tyfu, roedd adar yn nythu ynddo, a phan ymwelodd y Cyngor â’r eiddo ym mis Mehefin 2024 nid oedd modd tynnu’r llwyn oddi yno oherwydd bod adar yn nythu yno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn ymateb i gŵyn Mr A yng Ngham 2 gweithdrefn gwyno’r Cyngor, yn ystyried ymddiheuro am yr amser a gymerwyd i dynnu’r llwyn oddi yno ac y byddai’n rhoi dyddiad i Mr A ym mis Medi pan fyddai’n dychwelyd i dynnu’r llwyn unwaith y byddai’r adar sy’n nythu wedi magu plu.