Cwynodd Mr A ynghylch a oedd y Cyngor wedi gweithredu yn unol â’i bolisïau perthnasol wrth ymdrin ag adroddiadau am dap yn gollwng yr oedd wedi’i wneud rhwng 2022 a mis Ionawr 2024.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gwneud gwaith atgyweirio i gartref Mr A mewn amser rhesymol. Roedd hefyd wedi colli cyfle cynharach i gyfeirio Mr A at ei Wasanaeth Cyngor Ariannol. O ganlyniad, nid oedd yn gweithredu yn unol â’i bolisïau perthnasol. Mae’r rhain yn fethiannau a oedd yn gyfystyr â chamweinyddu, ac roeddent yn anghyfiawnder i Mr A. O ganlyniad, cafodd cwyn Mr A ei chadarnhau.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am beidio â gwneud gwaith atgyweirio i’w gartref mewn amser rhesymol ac am beidio’i atgyfeirio’n gynharach at y Gwasanaeth Cyngor Ariannol. Cytunodd hefyd i adolygu’r broses adrodd ar atgyweiriadau i sicrhau ei bod yn cynnwys cyfarwyddyd i gyhoeddi derbynneb neu rif cyfeirnod pan adroddir am atgyweiriadau, sicrhau bod staff perthnasol yn ymwybodol o’r meini prawf ar gyfer atgyfeirio at y Gwasanaeth Cyngor Ariannol a sicrhau bod staff sy’n dosbarthu ceisiadau am atgyweiriadau yn gyfarwydd â’r polisi atgyweirio, yn enwedig yr adran ar sut y dylid dosbarthu atgyweiriadau.